The Rural Economy in Mid Wales

The Growing Mid Wales Partnership is a strong regional partnership comprising of representative bodies from across the private, public and voluntary sector in Mid Wales, and was established in early 2015 with the aim of achieving better economic outcomes across this predominately rural region.  

With this in mind, the fundamental outcome the Partnership would wish to see from any future agricultural and rural development policy would be a productive and sustainable agricultural economy in the Mid Wales region.

The nature of agriculture and the natural landscape varies greatly across Wales, and within the Mid Wales region itself. For example, parts of the Severn Valley in Powys and southern Ceredigion are highly productive and support large dairy herds. This  contrasts with the uplands of the Cambrian Mountains, the Beacons and the Berwyn range in northern Powys, which are vitally important in terms of conservation and biodiversity.  Any future agricultural and rural development policies, be they part of a Wales or UK policy framework, should recognise the variety of activity and allow for flexibility accordingly.

Future actions and policy related to Food and Farming must build on existing strengths in the sector and current assets and  investments. We must build on the well established production and processing capacity across the Mid Wales region, which is home to nationally important companies.

Food Centre Wales, one of the three Food Innovation Wales locations, is also located in the region at Horeb, near Llandysul, assisting in adding value to products, developing short supply chains encouraging product innovation, ensuring focus on quality and exploiting links with tourism. It is vital to further develop such clusters to create critical mass for promotion and development.

Another such cluster in agricultural expertise is to be found in the Mid Wales region at Aberystwyth University, particularly in the Institute for Biological, Environmental and Rural Sciences (IBERS) which hosts nationally important research facilities such as the Grassland Development Centre, Pwllpeirian Upland Research Platform and the National Plant Phenomics Centre, hosting the UKs most advanced research greenhouse. The university is also a world leader in biotechnology, especially in the fields of parasites, human and animal diseases.  Recent UK Government baseline research has identified the significant growth potential in the ‘Agritech’ sector, (BEIS July 2016). IBERS is a significant resource for Wales is this growing sector and has the potential to lead Wales’ share in this growth as the only BBSRC funded institution here.

Funding for future knowledge transfer activities should be guaranteed in order to ensure the agricultural community of Wales benefits from this expertise.

In addition to the benefits derived in Mid Wales from many projects funded under the Rural Development Plan measures. The regional economy here benefits significantly from CAP Pillar 1 direct payments to farmers.  Some sources suggest CAP payments make up 80% of farmers income in Wales. If this is the case, future reform of subsidy payments to farmers poses a major threat to the Mid Wales economy.

There is significant potential to boost the rural economy here through the development of renewable energy. The previous Government commission a report on the contribution of renewable energy to the rural economic development.

In addition to Agricultural and Environmental policy, the economy of rural Mid Wales is influenced by pan-Wales operations that fall under a wide range of diverse policy areas under several Cabinet Secretaries. For example, policies relating to infrastructure and skills heavily influence how issues such as poverty are dealt with. However, there are important differences between urban and rural poverty, and between the approaches to combat them which some policies may not fully realise. The Public Policy Institute for Wales, a body sponsored  by both the Economic and Social Research Council and the Welsh Government, has suggested that a means of addressing such issues is through ‘rural proofing,’ which seeks to ensure that the impact on rural areas is taken into consideration when creating and implementing policy.

Mae Partneriaeth Tyfu Canolbarth Cymru yn bartneriaeth ranbarthol gryf wedi'i ffurfio o gyrff cynrychioliadol o'r sector preifat, cyhoeddus a gwirfoddol yng Nghanolbarth Cymru, ac fe'i sefydlwyd ar ddechrau 2015 gyda'r nod o sicrhau canlyniadau economaidd gwell ar draws yr ardal wledig hon.

Gyda hyn mewn cof, y canlyniad sylfaenol yr hoffai'r Bartneriaeth ei weld yn deillio o unrhyw bolisïau amaethyddol a datblygu gwledig yn y dyfodol fyddai economi amaethyddol gynhyrchiol a chynaliadwy yn ardal Canolbarth Cymru.

Mae natur amaethyddiaeth a'r dirwedd naturiol yn amrywio'n fawr ar draws Cymru, ac o fewn ardal Canolbarth Cymru ei hun. Er enghraifft, mae rhannau o Ddyffryn Hafren ym Mhowys a de Ceredigion yn gynhyrchiol iawn ac yn cynnal buchesau godro mawr. Mae hyn yn cyferbynnu ag ucheldiroedd Mynyddoedd Cambria, Bannau Brycheiniog a Mynyddoedd y Berwyn yn ne Powys, sy'n hanfodol bwysig o ran cadwraeth a bioamrywiaeth.  Dylai unrhyw bolisïau amaethyddol a datblygu gwledig yn y dyfodol, boed yn rhan o fframwaith polisi Cymru neu'r DU, gydnabod amrywiaeth y gweithgarwch a darparu ar gyfer hyblygrwydd.

Mae'n rhaid i weithredoedd a pholisïau newydd sy'n gysylltiedig â bwyd a ffermio adeiladu ar gryfderau presennol y sector ac asedau a buddsoddiadau sy'n bodoli. Mae'n rhaid i ni adeiladu ar gapasiti cynhyrchu a phrosesu sefydledig ar draws ardal Canolbarth Cymru sy'n gartref i gwmnïau o bwysigrwydd cenedlaethol.

Mae Canolfan Bwyd Cymru, lleoliad un o'r tair Canolfan Arloesi Bwyd yng Nghymru, wedi'i lleoli yn ardal Horeb, ger Llandysul, gan helpu i ychwanegu gwerth at gynhyrchion, datblygu cadwyni cyflenwi byr sy'n annog arloesi wrth gynhyrchu, ac yn sicrhau bod y ffocws ar ansawdd a manteisio ar gysylltiadau â thwristiaeth. Mae'n hollbwysig i ddatblygu clystyrau o'r fath ymhellach i greu màs critigol i'w hybu a'i ddatblygu,

Clwstwr arall o'r fath yw'r arbenigedd amaethyddol sydd i'w gael yn ardal Canolbarth Cymru ym Mhrifysgol Aberystwyth, yn enwedig yn Sefydliad y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS) lle y ceir cyfleusterau ymchwil o bwysigrwydd cenedlaethol megis y Ganolfan Datblygu Glaswelltir, Llwyfan Ymchwil yr Ucheldir Pwllpeiran a'r Ganolfan Ffenomeg Planhigion Genedlaethol sy'n gartref i un o dai gwydr ymchwil mwyaf datblygedig y DU.  Mae'r brifysgol hefyd yn arwain y byd ym maes biotechnoleg, yn enwedig ym maes parasitiaid, clefydau dynol a chlefydau anifeiliaid.  Mae ymchwil gwaelodlin diweddar Llywodraeth y DU wedi nodi potensial twf arwyddocaol yn y sector 'Agritech' (BEIS Gorffennaf 2016). Mae IBERS yn adnodd pwysig i Gymru yn y sector hwn sy'n tyfu, gyda'r potensial i arwain cyfran Cymru yn y twf hwn fel yr unig sefydliad a ariennir gan BBSRC.

Dylid gwarantu cyllid ar gyfer gweithgareddau trosglwyddo gwybodaeth yn y dyfodol er mwyn sicrhau bod cymuned amaethyddol Cymru yn elwa o'r arbenigedd hwn.

Yn ogystal â'r buddion a ddaw i Ganolbarth Cymru trwy nifer o brosiectau a ariennir o dan fesurau Cynllun Datblygu Gwledig, mae'r economi wledig yma yn elwa'n fawr o daliadau uniongyrchol y Polisi Amaethyddol Cyffredin (PAC) Colofn 1 i ffermwyr.  Mae rhai ffynonellau yn awgrymu bod taliadau PAC yn ffurfio 80% o incwm ffermwyr yng Nghymru. Os yw hynny'n wir, mae diwygio cymorthdaliadau i ffermwyr yn y dyfodol yn fygythiad mawr i economi Canolbarth Cymru.

Mae potensial mawr i hybu'r economi wledig yma trwy ddatblygu ynni adnewyddadwy. Comisiynwyd adroddiad gan y Llywodraeth flaenorol ar gyfraniad ynni adnewyddadwy i ddatblygiad yr economi wledig.

Yn ogystal â'r polisïau amaethyddol ac amgylcheddol, mae economi ardal wledig Canolbarth Cymru yn cael ei dylanwadu gan weithrediadau ar draws Cymru sy'n dod o dan ystod eang o feysydd polisi ac yn gyfrifoldeb sawl Ysgrifennydd Cabinet. Er enghraifft, mae polisïau yn ymwneud â seilwaith a sgiliau yn cael dylanwad mawr ar sut yr ymdrinnir â phroblemau fel tlodi. Fodd bynnag, mae gwahaniaethau pwysig rhwng tlodi trefol a thlodi gwledig, a rhwng y dulliau o fynd i'r afael â nhw, rhywbeth nad yw rhai polisïau efallai'n ei lawn sylweddoli. Mae'r Sefydliad Polisi Cyhoeddus i Gymru, corff a noddir gan y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol a Llywodraeth Cymru, wedi awgrymu 'prawfesur polisïau gwledig' fel dull o fynd i'r afael â'r problemau hyn gan geisio sicrhau bod yr effaith ar ardaloedd gwledig yn cael ei hystyried wrth lunio a gweithredu polisïau.

Why the contribution is important

Given that the Mid Wales area comprises 39% of the land area of Wales and is almost entirely rural in nature, it is natural that agriculture dominates the areas economic base – 31.9% of business in the Growing Mid Wales region are classed as being in the agriculture, forestry and fishing sector, as opposed to 20.9% across Wales.

As agricultural activities play such a large part in the economy of Mid Wales in comparison to other economic regions of Wales, any potential changes to future support for agriculture, land management and rural communities will proportionally have a greater effect on the region.

The Growing Mid Wales partnership would seek to work closely with Government to ensure any future support for agriculture, land management and rural communities in the Mid Wales region meets the needs of the region’s people and economy, and would welcome any opportunity to contribute to the work of the Climate Change, Environment and Rural Affairs Committee.

Gan fod ardal Canolbarth Cymru yn cynnwys 39% o arwynebedd tir Cymru a'i bod bron yn hollol wledig ei natur, mae'n naturiol bod amaethyddiaeth yn dominyddu sylfaen economaidd yr ardal - mae 31.9% o fusnesau yn ardal Tyfu Canolbarth Cymru wedi'u dosbarthu fel rhai sydd yn y sector amaethyddiaeth, coedwigaeth a physgota, o'i gymharu â 20.9% ar draws Cymru.

Gan fod gweithgareddau amaethyddol yn chwarae rhan mor fawr yn economi Canolbarth Cymru o'i gymharu ag ardaloedd economaidd eraill Cymru, bydd unrhyw newidiadau posibl i'r cymorth ar gyfer amaethyddiaeth, rheoli tir a chymunedau gwledig yn y dyfodol yn cael mwy o effaith ar yr ardal hon.

Hoffai Partneriaeth Tyfu Canolbarth Cymru gydweithio'n agos â'r Llywodraeth i sicrhau bod unrhyw gymorth yn y dyfodol ar gyfer amaethyddiaeth, rheoli tir a chymunedau gwledig yn ardal Canolbarth Cymru yn ateb anghenion pobl ac economi'r ardal, a byddai'n croesawu unrhyw gyfle i gyfrannu at waith y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Materion Gwledig.

by GrowingMidWales on October 12, 2016 at 09:40AM

Current Rating

0.0
Average score : 0.0
Based on : 0 votes

Comments

  • Posted by CelynMenai February 23, 2017 at 13:59

    Diolch i chi am rannu eich syniadau a sylwadau!

    Mae eich blaenoriaethau a syniadau yn cael eu defnyddio i helpu’r Pwyllgor i ysgrifennu ei adroddiad ar sut y gallwn ddatblygu egwyddorion sy'n sail i bolisi amaethyddiaeth a datblygu gwledig newydd i Gymru. Am ragor o wybodaeth, plîs cysylltwch â fi ar celyn.cooper@cynulliad.cymru. Mi fyddai’n sicr o ddiweddaru’r tudalennau hyn a’r sgwrs fel mae hyn yn datblygu.

    Mae eich syniadau a’ch blaenoriaethau hefyd wedi bod o gymorth i’r Pwyllgor wrth iddo wahodd sefydliadau a chyrff cynrychioliadol i’r Senedd i roi tystiolaeth ar lafar ar ddyfodol amaeth yng Nghymru.

    O ddiddordeb , mae'r Pwyllgor yn cynnal nifer o ymgynghoriadau newydd ar hyn o bryd. Mae croeso i chi gysylltu yn uniongyrchol, neu ymweld â wefan y Pwyllgor am fanylion pellach: http://www.assembly.wales/cy/bus-home/committees/Pages/Committee-Profile.aspx?cid=444

    Diolch o galon i chi gyd eto!

    ***

    Thank you for sharing your idea and comments!

    Your ideas and priorities are now being used to help the Committee write its report on how we can develop principles to underpin a new agriculture and rural development policy for Wales. For more information, please do contact me @ celyn.cooper@assembly.wales. I’ll also make sure to update the pages and this thread to keep you updated as this progresses.

    Your ideas and priorities have also been a great support for the Committee as it invited representative organisations and bodies to come to the Senedd and give oral evidence on the future of agriculture in Wales.

    Of interest, the Committee is also undertaking a number of other inquiries at the moment that may be of interest. You're more than welcome to contact me directly, or visit the Committee's webpage for more information on how to get involved: http://www.assembly.wales/en/bus-home/committees/Pages/Committee-Profile.aspx?cid=444

    Thank you again for all your contributions!
    Diolch!
Log in or register to add comments and rate ideas