- Please watch our video! -

There were 4,704 Welsh people in prison as of June 2018.

In the UK, prisoners serving custodial sentences are banned from voting in all elections.

However…

…since a landmark ruling in 2005 by the European Court of Human Rights*, this ban has been repeatedly found to be in breach of international human rights law.

In November 2017, the UK Government announced plans to give prisoners released on temporary licence or on home detention curfew, the right to vote. This is enough to comply with the ruling made by the European Court of Human Rights.

What about Wales?

In Wales, the National Assembly for Wales has the power to make decisions in relation to both Assembly and local government elections.

How you can get involved

In considering whether you think prisoners should be allowed to vote in Welsh elections, we would be grateful if you would also consider the following:-

  • Should a prisoner’s right to vote depend upon the length of their sentence, the type of offence committed and/or their expected release date?
  • If prisoners were given the right to vote, what method should be used? (for example, postal vote, electronically, mobile booths in the prison, or another method?)
  • Do you think special considerations should apply to young offenders in custody if the voting age is lowered to 16 and 17 year olds generally?
  • If prisoners were given the right to vote, at what address should they be registered to vote?

Your views are invaluable to us and will help inform the work of the Assembly’s Equality, Local Government and Communities Committee. As well as sharing your views, please feel free to comment on the views of others who have contributed.

If you have any queries, please e-mail rhys.jones@assembly.wales.

Should you wish to remain anonymous, we would kindly request that you do not include any information that would identify you. We would however be grateful if you would provide your location and a brief description of your circumstances (ex-prisoner, family or friend of a prisoner, other etc.) for context.

*not an EU body.

 

 

- Gwyliwch ein fideo! -

Roedd 4,704 o bobl o Gymru yn y carchar ym mis Mehefin 2018.

Yn y DU, mae carcharorion sy'n bwrw dedfrydau o garchar wedi'u gwahardd rhag pleidleisio ym mhob etholiad.

Fodd bynnag...

...ers dyfarniad nodedig yn 2005 gan Lys Hawliau Dynol Ewrop*, canfuwyd bod y gwaharddiad hwn, dro ar ôl tro, yn torri'r gyfraith ryngwladol o ran hawliau dynol.

Ym mis Tachwedd 2017, cyhoeddodd Llywodraeth y DU ei bwriad i roi'r hawl i garcharorion bleidleisio os ydynt ar drwydded dros dro neu dan gyrffyw lle maent yn cael eu cyfyngu i'r cartref. Mae hyn yn ddigon i gydymffurfio â'r dyfarniad a wnaed gan Lys Hawliau Dynol Ewrop.

Beth am Gymru?

Yng Nghymru, mae gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru y pŵer i wneud penderfyniadau mewn perthynas ag etholiadau'r Cynulliad a'r llywodraeth leol.

Sut y gallwch chi gymryd rhan

Wrth ystyried a ydych yn credu y dylid caniatáu i garcharorion bleidleisio mewn etholiadau yng Nghymru, byddem yn ddiolchgar pe baech hefyd yn ystyried y canlynol:

  • A ddylai hawl carcharor i bleidleisio ddibynnu ar hyd eu dedfryd, y math o drosedd a gyflawnwyd a/neu ei ddyddiad rhyddhau disgwyliedig?
  • Pe bai carcharorion yn cael yr hawl i bleidleisio, pa ddull y dylid ei ddefnyddio? (Er enghraifft, pleidlais drwy'r post, yn electronig, bythod symudol yn y carchar, neu ddull arall?)
  • A ydych yn credu y dylai ystyriaethau arbennig fod yn gymwys i droseddwyr ifanc sydd yn y ddalfa os caiff yr oedran pleidleisio ei ostwng i bobl ifanc 16 a 17 oed yn gyffredinol?
  • Pe bai carcharorion yn cael yr hawl i bleidleisio, ym mha gyfeiriad y dylent gael eu cofrestru i bleidleisio?

Mae eich barn yn amhrisiadwy i ni a bydd yn helpu i lywio gwaith Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau'r Cynulliad. Yn ogystal â rhannu eich barn, mae croeso i chi roi sylwadau ar farn pobl eraill sydd wedi cyfrannu.

Os oes gennych gwestiynau, anfonwch e-bost at rhys.jones@cynulliad.cymru.

Os ydych am i'ch sylwadau aros yn ddienw, gofynnwn yn garedig i chi beidio â chynnwys unrhyw wybodaeth a fyddai'n eich adnabod. Fodd bynnag, byddem yn ddiolchgar pe baech yn nodi eich lleoliad a disgrifiad byr o'ch amgylchiadau (cyn-garcharor, aelod o deulu neu ffrind i garcharor, arall ac ati) ar gyfer cyd-destun.

*nid corff yr UE.

14 ideas